Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Hydref 2020
Amser:
09.30 -
10.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6469
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS Suzy Davies AS (yn lle David Melding AS) |
Tystion: |
Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Ceri Planchant, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AS. Roedd Suzy Davies AS yn bresennol fel dirprwy.
2 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
3 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
3.1 SL(5)622 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(5)624 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Torfaen 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(5)621 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.2 SL(5)619 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.3 SL(5)620 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Papur(au) i’w nodi
5.1 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Ategol (Memorandwm Rhif 4) Llywodraeth Cymru ar y Bil Amaethyddiaeth.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
5.2 Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) - darpariaethau mewn perthynas â threfniadau ariannu ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd.
5.3 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac, mewn sesiwn breifat, cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad brys am nifer o faterion yn ymwneud â'r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Bil Pysgodfeydd y DU.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
7 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Addysg a chytunwyd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8 Diweddariad ar Fil Marchnad Fewnol y DU
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â Bil Marchnad Fewnol y DU.